Meeting Venue:
Y Siambr - Y Senedd
Meeting
date:
Dydd Mawrth, 11
Hydref 2022
Meeting
time: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol
(30 munud)
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf
(30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7 ac 8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
7 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
NDM8088 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).
Gosodwyd Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Medi 2022.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
NDM8088 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
9 Cyfnod pleidleisio
The Senedd will sit again in Plenary at 13.30, Dydd Mercher, 12 Hydref 2022